Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2018
Amser:
09.31 -
09.51
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Comisiynydd Safonau: |
Syr Roderick Evans QC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papur ei nodi, a chytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Llywydd gan nodi barn y Pwyllgor.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb a gafwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a sut y byddai'r effaith yn cael ei monitro.
4.1 Nododd a thrafododd yr Aelodau yr ymateb a gafwyd gan y Prif Weinidog. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at yr eitem.
4.2 Rhoddodd y Clerc y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r Aelodau ynghylch y polisi drafft diwygiedig ar urddas a pharch. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at yr eitem hon yn ystod y cyfarfod nesaf.